Siarad am bersawr naturiol
Mae Catrin ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru dydd Iau 24ain o Chwefror yn siarad am bersawr yn gyffredinol ac yn arbenning am sut i wneud i bersawr bara’.
Annog pobl i gysidro gwerth persawr
Sefydlon ni Jones a Modha i annog pobl i newid disgwyliadau o gwmpas persawr ac hefyd i ddechrau meddwl yn wahanol am y byd persawr. Roedden ni wedi cael hen ddigon ar weld hysbysebion ar y teledu adeg Nadolig sy’n costio cannoedd o filoedd o bunnau, efo ‘seleb’ neu enwogion Hollywood yn gwisgo ffrog ddrud mewn fflat gwerth milyniau yn Efrog Newydd, neu Johnny Depp yn yr anialwch yn chwarae’r gitar (chi ‘di gweld yr un yna?!). Be yn union ma’ rhain i neud a’n bywydau ni? Braf breuddwydio wrth gwrs, ond mae gennon ni gwestiwn arall - os oes arian i wario ar hysbysebion o’r fath, faint o broffit mae’r cwmniau ‘ma’n gwneud?! Faint o werth yn union sydd ar y cynhwysion ar ol talu am y pecynnu crand a chymleth?
A’r cynhwysion!
Ar ben hynny, mae gennon ni lawer o gwestiynau o amgylch be yn union sy’n mynd i fewn i’r persawr ei hun? Mae’n gwbl gyfreithiol i roi’r gair ‘fragrance’ ar unrhywbeth, heb orfod esbonio be’ sy’n mynd i fewn i hwnnw. Gall fod yn barabens er engraifft, sy’n dod o gemegion o betrol ac olew. Ddim yn arbenning o dda i’r amgylchfyd nac i’n croen ni, i ddweud y gwir.
Chwilio am berfumier
Felly, dyma ni’n cychwyn ar daith i ddarganfod ‘perfumier’ buase’n deall ein nod ac yn cydfynd. Cymerodd hi dros flwyddyn i ddod o hyd i’r person iawn - sy’n ofalus wrth ddewis cynhwysion naturiol yn unig, o blanhigion a blodau. Sy’n ymwybodol o ba mor angenrheidiol ydi i ni gyd dalu sylw at yr effaith mae bob un ohonom yn cael ar y ddaear. Mae’n bosib dewis persawr sy’n ceisio troedio’n ofalus ar ein blaned.
Gwneud i bersawr bara’
Ac yna daw’r cwestiwn yn aml, sut mae gweud i bersawr i bara’ ar ein croen. Does na ddim un ateb syml yn anffodus. Yn y lle cyntaf, rhaid dweud mai cemegion synthetig sy’n gwneud i’r persawr bara’ fwyaf. Ond gall hwnnw greu yr arogl cryf yna - chi’n gwybod - yr un sy’n creu cwmwl cryf o bersawr o’ch amgylch pan mae rhywun yn cerdded heibio. Dydyn ni ddim yn ffans mawr o hwnnw, rhaid dweud!
I gael persawr i bara’, mae’n dibynnu ar eich croen a faint o olew sydd yn eich croen yn naturiol. Os ‘dych chi newydd gael cawod, fydd y persawr ddim yn para’ cyhyd. Mae’n gallu para’n hirach os rhowch e ar ddillad, neu ar eich gwallt hefyd. Cofiwch hefyd eich bod yn gallu mynd i arfer a’r persawr, felly falle’ na fyddwch chi’n ymwybodol ohono, ond fydd pobl eraill yn ei glywed!
Mae’n arferol i angen rhoi ‘spritz’ nifer o weithiau mewn diwrnod i gael effaith y nodiadau top - efo Jones a Modha, mae’r rheini yn sitrws, bergamot, yn codi’r galon a chlirio’r meddwl. Ar ol i bersawr setlo, ‘dan ni’n clywed y nodiadau canol a gwaelod, sy’n gallu bod yn wahanol iawn i’r rhai top.
Mwynhewch!
Mae persawr a pheraroglau yn bethe mor personol, ac mae’n dibynnu ar ein hiwmor ar y pryd. Mae’n werth chwarae ychydig a thrio gwahanol bersawrau a mwynhau y broses. Mae hefyd yn werth chwillio am bersawr naturiol - llawer yn well i’ch croen a bendant yn well i’r blaned.